Mae cyn-glo tîm rygbi Awstralia, Dan Vickerman wedi marw yn 37 oed.

Mae cyn-chwaraewr y Brumbies a’r Waratahs, a enillodd 63 o gapiau rhyngwladol, yn gadael gwraig a dau fab.

Cafodd ei eni yn Ne Affrica, ac fe dreuliodd gyfnod yn yr Aviva Premiership yn Lloegr gyda chlwb Northampton cyn ymddeol yn 2012.

Enillodd ei gap olaf yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd yn 2011.

Yn ystod ei yrfa, fe dreuliodd dair blynedd yn yr anialwch rhyngwladol ar ôl mynd i astudio i Brifysgol Caergrawnt, gan gynrychioli’r tîm yn y Farsiti yn erbyn Rhydychen.

Fe fu’n gweithio i Gymdeithas Chwaraewyr Rygbi’r Undeb yn dilyn ei ymddeoliad.

Mae’r gymdeithas wedi talu teyrnged iddo, gan ddweud fod “parch byd-eang” ato.

Dywedodd Prif Weithredwr y Waratahs, Andrew Hore, gynt o’r Gweilch, y byddai ei “waddol yn bod am amser hir”.