Mae Arberth yn gobeithio am sioc yng Nghwpan Cenedlaethol Cymru yfory wrth iddyn nhw groesawu Cwins Caerfyrddin  i Gae Lewis Lloyd.

Mae’r ddau glwb yn gyfarwydd iawn â’i gilydd gyda’r clwb o Sir Benfro yn bwydo chwaraewyr ifanc i’r Cwins ac wedyn i’r Scarlets.

Er bod Aberth yn chwarae mewn cynghrair is mae’r Cadeirydd yn gobeithio am sioc yn erbyn y Cwins.

“Mewn un gêm does gwybod be gall ddigwydd,” meddai Dorian Phillips. “Fel arfer buasai tîm o’r Uwchgynghrair yn rhy gryf, ond gyda thorf o ryw 2,000 a’r camerâu teledu yn bresennol, y  gobaith yw bydd yr hogiau yn codi eu gêm.

“Mae’n gyfle i ni roi Sir Benfro ar y map. Cyn gynted ag yr oedd y timau allan o’r het, roedd pawb yn derbyn mai hon oedd y gêm i’w darlledu. Mae hanes da rhwng y ddau glwb, ond un diwrnod buaswn yn hoff iawn o’u chwarae nhw yn yr Uwchgynghrair yn gyson.

“Mae’n wych i gael cyhoeddusrwydd a buasai mynd drwodd i’r wyth olaf yn dipyn o gamp.”

Mae gan Glwb Rygbi Arberth 150 o chwaraewyr ac mae tîm academi o dan 16 y Scarlets yn defnyddio eu cae i chwarae gemau cartref.

Mae’r gêm yn fyw ar S4C gyda’r gic gyntaf am ddau y p’nawn.