Rhai o chwaraewyr tîm Rygbi Merched Cymru - Gemma Rowland (chwith), Dyddgu Hywel, Rachel Taylor (capt) a Keira Bevan (dde) (llun: URC)
Mae tîm rygbi rhyngwladol merched Cymru wedi cael eu trechu 63-0 gan Loegr ym Mharc yr Arfau y prynhawn yma.

Methodd genod Cymru â gwneud unrhyw farc yn y gêm gerbron 4,000 o wylwyr wrth i’r merched o dros y ffin ragori arnyn nhw ym mhob ffordd.

Llwyddodd y Saesnesau i sgorio 11 cais, gan drosi 4 ohonyn nhw.

Gyda Lloegr yn arwain 36-0 ar hanner amser roedd y canlyniad terfynol yn anochel ymhell cyn diwedd y gêm.

Anodd fydd i’r dynion wneud yn waeth na hyn yn y gêm sy’n cychwyn am 5.00 yn Stadiwm y Mileniwm.