Joost van der Westhuizen
Mae un o gewri’r byd rygbi, Joost van der Westhuizen wedi marw’n 45 oed.

Cafodd wybod yn 2011 ei fod yn dioddef o glefyd niwronau motor, ac mae sefydliad J9 cyn-fewnwr De Affrica yn codi ymwybyddiaeth o’r cyflwr.

Daeth cadarnhad o’i farwolaeth yn Johannesburg ar dudalen Facebook y sefydliad.

Dywedodd y sefydliad: “Fe fu farw yn ei gartref gyda’i anwyliaid o’i gwmpas. Fe fydd colled ofnadwy ar ei ôl.”

Enillodd Joost van der Westhuizen 89 o gapiau dros ei wlad, ac roedd yn aelod blaenllaw o’r tîm a gipiodd dlws Cwpan Rygbi’r Byd yn Ne Affrica yn 1995.

Sgoriodd e 38 o geisiau rhyngwladol.