Yr Eidal 7–33 Cymru
Dechreuodd Cymru Bencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda buddugoliaeth dros yr Eidal yn y Stadio Olimpico yn Rhufain brynhawn Sul.
Bu bron iddynt gipio pwynt bonws gyda symudiad olaf y gêm ond bu rhaid iddynt fodloni ar dri chais a buddugoliaeth yn unig yn y diwedd.
Doedd dim llawer rhwng y ddau dîm mewn chwarter cyntaf di sgôr a’r Eidalwyr a groesodd am gais cyntaf y gêm wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae, y mewnwr, Edoardo Gori, yn gori ar y bêl wedi gwaith da’r blaenwyr.
Ciciodd Leigh Halfpenny dri phwynt cyntaf Cymru wedi hynny ond y tîm cartref a oedd ar y blaen wrth droi, 7-3 y sgôr.
Llwyr reolodd Cymru’r ail hanner ac roeddynt ar y blaen ar yr awr diolch i dair cic gosb o droed Halfpenny.
Cafodd prop yr Eidal, Andrea Lovotti, ei anfon i’r gell gosb am ddeg munud wedi hynny a manteisiodd Cymru’n llawn.
Croesodd Jonathan Davies am gais y cais cyntaf wedi gwaith da yr eilydd faswr, Sam Davies.
Roedd y ddau Davies, Sam a Jonathan, yn ei chanol hi eto yn ychydig funudau’n ddiweddarach yn creu’r ail gais i Liam Williams yn y gornel chwith.
Bu rhaid aros tan ddau funud o ddiwedd yr wyth deg ar gyfer y trydydd sef cais unigol da gan George North, yr asgellwr yn rhedeg yr holl ffordd o’i hanner ei hun cyn croesi o dan y pyst.
Roedd y pwynt bonws o fewn cyrraedd yr ymwelwyr wedi hynny ond er i Liam Williams ymestyn am y gwyngalch yn symudiad olaf y gêm, profodd y dyfarnwr fideo nad oedd wedi cyrraedd.
Er gwaethaf y diffyg pwynt bonws, mae’r fuddugoliaeth gyfforddus yn gadael Cymru ar frig tabl y Chwe Gwlad wedi’r penwythnos cyntaf o gemau.
.
Yr Eidal
Cais: Edoardo Gori 29’
Trosiad: Carlo Canna 29’
Cerdyn Melyn: Andrea Lovotti 60’
.
Cymru
Ceisiau: Jonathan Davies 61’, Liam Williams 67’, North 78’
Trosiadau: Leigh Halfpenny 61’, 67’, 78’
Ciciau Cosb: Leigh Halfpenny 36’, 46’, 53’, 56’