Northampton 50–10 Scarlets

Cafodd y Scarlets grasfa go iawn wrth iddynt deithio i Franklin’s Gardens i herio Northampton yn y Cwpan Eingl-Gymreig nos Wener.

Sicrhaodd y tîm cartref y pwynt bonws cyn yr egwyl cyn croesi am wyth cais i gyd mewn buddugoliaeth swmpus.

Dechreuodd y Scarlets yn dda gyda chais cynnar i Tom Williams a throsiad a chic gosb o droed Billy McBryde.

Roedd gan Northampton fantais iach wrth droi serch hynny diolch i geisiau Ben Foden (2), Jamie Gibson a Michael Paterson.

Ychwanegodd Harry Mallinder, Ken Pisi a James Fish (2) bedwar cais arall yn yr ail hanner wrth i’r fuddugoliaeth droi’n grasfa, 50-10 y sgôr terfynol.

.

Northampton

Ceisiau: Ben Foden 6’, 26’, Jamie Gibson 16’, Michael Paterson 39’, Harry Mallinder 43’, Ken Pisi 48’, James Fish 54’, 79’

Trosiadau: Stephen Myler 16’, 26’, 43’, 48’, 79’

.

Scarlets

Cais: Tom Williams 11’,

Trosiad: Billy McBryde 11’

Cic Gosb: Billy McBryde 3’