Mae’r cyn-godwr pwysau Nicky Smith yn barod ar gyfer yr her o chwarae rygbi ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad am y tro cyntaf pan fydd Cymru’n herio’r Eidal ddydd Sul.

Mae Gethin Jenkins wedi’i anafu, ac mae Nicky Smith wedi’i ddewis o flaen Rob Evans ar gyfer gêm agoriadol y gystadleuaeth yn Rhufain.

Mae Nicky Smith wedi ennill saith cap hyd yn hyn.

Dywedodd fod “colled fawr” ar ôl Gethin Jenkins ond ei fod e wrth ei fodd o gael dechrau’r gêm yn ei le.

“Dw i’n chwarae fy rygbi gorau pan fo cystadleuaeth, ac a bod yn deg, mae Rob yn chwaraewr gwych. Ry’n ni’n gwthio’n gilydd yn dda.

“Fi sy’n cael y cyfle ar gyfer y gêm hon, ond dw i’n gwybod y bydd rhaid i fi berfformio ar fy ngorau gyda Rob yno, gan y gollwn i golli fy nghrys yn hawdd iawn.”

Newid o safle’r wythwr i fod yn brop

Yn wythwr i dîm rygbi Waunarlwydd ger Abertawe pan oedd e’n iau, symudodd Nicky Smith o’r safle hwnnw i fod yn brop.

“Ond fe wnes i sylweddoli bo fi’n rhy fyr a blonegog, ac mai’r rheng flaen fyddai fy opsiwn gorau.

“Ces i fy symud yno gan reolwr fy nhîm a ches i sawl dadl gyda fe oherwydd do’n i ddim eisiau ei wneud e, ond yn ffodus fe wnes i wrando arno fe.

“Pan o’n i’n iau, ro’n i’n codi pwysau dipyn gyda fy nhad. Roedd yn rhywbeth ro’n i’n ei fwynhau’n fawr.

“Dw i ychydig yn drist nawr ’mod i’n methu gwneud cymaint oherwydd faint o rygbi dw i’n ei chwarae.

“Efallai ar ôl rygbi – os nad ydw i wedi cael gormod o glec – âf fi nôl ato fe.

“Ro’n i’n ei wneud oherwydd y mwynhad, mewn gwirionedd, a phan ddechreuais i chwarae rygbi, roedd yn fuddiol i fi gan ei fod yn helpu wrth chwarae yn safle’r prop.”

“Wnes i lwyddo i godi 200 kilo unwaith oddi ar y fainc. Ond roedd hynny’n amser maith yn ôl!”