Taulupe Faletau Llun: PA
Mae hyfforddwr cynorthwyol tîm rygbi Cymru wedi cadarnhau na fydd Taulupe Faletau na Luke Charteris yn chwarae yn gêm gynta’r chwe gwlad i Gymru yn erbyn yr Eidal ddydd Sul.

Dywedodd Robin McBryde fod Taulupe Faletau yn dal i wella o anaf i’w ben-glin, gan gadarnhau hefyd fod Luke Charteris yn dioddef o anaf i’w law.

Ond, mae lle i gredu y bydd y ddau ar gael i’r hyfforddwyr eu dewis ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn stadiwm Principality yr wythnos ganlynol.

Mae disgwyl i Rob Howley gyhoeddi ei garfan ddydd Iau, wrth iddyn nhw herio’r Eidal yn Rhufain o dan gapteniaeth newydd Alun Wyn Jones.