Mae tîm rygbi Cymru eisiau cau to Stadiwm Principality ar gyfer eu gemau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Yn ôl yr hyfforddwr dros dro, Rob Howley, mae angen sicrhau’r amodau gorau posib ar gyfer y gemau yng Nghaerdydd.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i’r ddau dîm gytuno i gau’r to – fel arall, mae’n aros ar agor.

Gemau yn erbyn Lloegr ac Iwerddon fydd gan Gymru yng Nghaerdydd eleni, ac mae Rob Howley yn arwain y tîm yn absenoldeb Warren Gatland, sydd yn paratoi ar gyfer taith y Llewod i Seland Newydd yn yr haf.

Dywedodd Rob Howley: “Dw i wedi gofyn i cwestiwn, ac yn credu y dylai’r stadiwm fod ynghau.

“Fe allech chi gael sefyllfa lle’r y’ch chi wedi chwarae tair gêm gartref fod angen i’r tîm oddi cartref ennill a bod angen i ni ennill gyda phwynt bonws. Beth yw’r amodau gorau?”

‘Camgymeriad’

Dywedodd Rob Howley ei fod e wedi awgrymu cau’r to yn ystod gemau’r hydref y llynedd.

“Ar y cyfan, ry’n ni’n cau’r to er mwyn chwarae yn yr hydref, ac fe wnes i gamgymeriad yn erbyn Awstralia a’i gadw ar agor am ei fod yn ddiwrnod braf.

“Fe wnes i danbrisio’r achlysur, a doedd gyda ni ddim yr amodau gorau i’r tîm. Ry’n ni i gyd yn gwneud camgymeriadau.

“Dylid chwarae rygbi o dan yr amodau gorau posib, ac os gallwn ni greu hynny yn Stadiwm Principality, hoffwn i feddwl y daw’r achlysuron hynny’n hwyr neu’n hwyrach.”