Sale 25–23 Scarlets

Daeth ymgyrch Ewropeaidd y Scarlets i ben gyda cholled yn erbyn Sale yn Stadiwm AJ Bell brynhawn Sadwrn.

Roedd gobeithion Bois y Sosban o gyrraedd yr wyth olaf ar ben ers iddynt golli gartref yn erbyn Saracens yr wythnos diwethaf a gorffennodd y grŵp gyda phrynhawn siomedig arall i’r Cymry.

Sale, heb os, a oedd tîm gorau’r hanner cyntaf ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen yn gynnar gyda chic gosb AJ MacGinty a chais Paolo Odogwu.

Ychwannegodd MacGinty ei ail gic gosb wedi hynny cyn i gais unigol da Will Addison ymestyn y fantais i 16 pwynt.

Er gwaethaf goruchafiaeth Sale roedd y Scarlets yn ôl o fewn sgôr ar yr egwyl diolch i gic gosb Dan Jones a chais DTH van der Merwe.

Tri phwynt yr un o draed MacGinty a Jones oedd unig bwyntiau hanner cyntaf yr ail hanner ond ymestynnodd MacGinty fantais Sale i naw pwynt gyda chic arall ar yr awr.

Roedd y Scarlets yn ôl yn y gêm yn fuan wedyn wrth i hyrddiad eu blaenwyr gael ei atal yn anghyfreithlon gan Magnus Lund. Cafodd Bois y Sosban gais cosb a blaenasgellwr Sale ddeg munud yn y gell gosb, 22-20 y sgôr wedi trosiad Jones.

Rhoddodd cic gosb Jones yr ymwelwyr o orllewin Cymru ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm chwe munud o ddiwedd yr wyth deg ond Sale a gafodd y gair olaf.

Enillodd MacGinty’r gêm i’r Saeson gyda’i bumed cic lwyddiannus. 25-23 y sgôr terfynol a’r Scarlets yn gorfod bodloni ar bwynt bonws yn unig wrth orffen yn drydydd yng ngrŵp 3 Cwpan Pencampwyr Ewrop.

.

Sale

Ceisiau: Paolo Odogwu 11’, Will Addison 28’

Ciciau Cosb: AJ MacGinty 3’, 19’, 49’, 61’, 77’

Cerdyn Melyn: Magnus Lund 64’

.

Scarlets

Ceisiau: DTH van der Merwe 40’, Cais Cosb 64’

Trosiadau: Dan Jones 40’, 64’

Ciciau Cosb: Dan Jones 32’, 56’, 74’