Gleision 37–21 Bryste

Roedd colled y Dreigiau yn Brive yn gynharach brynhawn Sadwrn yn golygu fod lle’r Gleision yn wyth olaf Cwpan Her Ewrop yn ddiogel beth bynnag y canlyniad yn eu gêm gartref yn erbyn Bryste.

Ond go brin fod y chwaraewr ar y cae yn gwybod hynny ac fe wnaeth y Gleision eu gwaith wrth orffen grŵp 4 mewn steil gyda buddugoliaeth bwynt bonws ar Barc yr Arfau.

Wedi chwarter cyntaf di sgôr fe agorodd Kristian Dacey’r sgorio gyda chais i’r Gleision.

Dechreuodd y tîm cartref gyda Gareth Anscombe yn safle’r maswr a Steve Shingler yn y canol a thalodd y penderfyniad ar ei ganfed wrth i Anscombe groesi am ail gais y Gleision.

Llwyddodd Shingler gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb i roi pymtheg pwynt o fantais i’r Cymry gyda deg munud o’r hanner ar ôl.

Pwynt yn unig a oedd ynddi wrth droi serch hynny wedi cais yr un i Jordan Williams a Jack Tovey ynghyd â dau drosiad Adrian Jarvis.

Ymestynnodd Matthew Morgan fantais y Gleision yn gynnar yn yr ail hanner gyda chais yn erbyn ei gyn glwb.

Aeth Bryste ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm gyda throsiad Jarvis yn dilyn ail gais y Cymro, Williams, ond roedd y Gleision yn ôl ar y blaen o fewn dau funud diolch i dri phwynt o droed Shingler, 23-21 y sgôr gyda chwarter y gêm yn weddill.

Sicrhaodd Morgan y pwynt bonws gyda’i ail gais ef a phedwerydd ei dîm ddeg munud o’r diwedd ac roedd y fuddugoliaeth tu hwnt i unrhyw amheuaeth wedi i Sam Warburton groesi am y pumed yn fuan wedyn.

Mae’r Gleision yn gorffen yn ail yng ngrŵp 4 y tu ôl i Gaerfaddon a gafodd fuddugoliaeth gartref yn erbyn Pau. Ond bydd hynny’n ddigon i sicrhau lle’r Cymry yn yr wyth olaf fel un o’r tri thîm i orffen gyda’r mwyaf o bwyntiau yn yr ail safle.

.

Gleision

Ceisiau: Kristian Dacey 21’, Gareth Anscombe 24’, Matthew Morgan 44’, 70’, Sam Warburton 75’

Trosiadau: Steve Shingler 25’, 71’, 75’

Ciciau Cosb: Steve Shingler 31’, 59’

.

Bryste

Ceisiau: Jordan Williams 32, 56’, Jack Tovey 39’

Trosiadau: Adrian Jarvis 33’, 40’, 57’

Cerdyn Melyn: Max Crumpton 67’