Llun Golwg360
Mae Gleision Caerdydd wedi arwyddo’r ail reng o Dde Affrica, Franco Van der Merwe, ar gyfer y tymor nesa’ – er y bydd yn 34 oed erbyn hynny.

Yn ôl prif hyfforddwr y clwb, Danny Wilson, fe fydd y chwaraer 6’6” yn help i ddatblygu gweddill y blaenwyr ac yn cynnig arweiniad ar y cae.

Fe fydd y Springbok yn cadael Ulster lle mae wedi chwarae bron 70 o gêmau ac, er mai dim ond un cap y mae wedi ei ennill i Dde Affrica, mae’n cael ei ystyried yn chwraewr pwerus.

“Mae Franco’n chwaraewr o safon,” meddai Danny Wilson. “Fe fydde’n dod â mwy o bŵer corfforol a phrofiad i’r pac. Mae wedi bod yn arweinydd a pherfformiwr ardderchog i Ulster yn ystod y ddau dymor diwetha’.”

Dim ond 25 yw oed blaenwyr y Gleision ar gyfartaledd ar hyn  bryd.