Alun Wyn Jones (Llun: Chris Jobling CCA 2.0)
Mae carfan Chwe Gwlad Cymru wedi cael ei chyhoeddi heddiw gydag Alun Wyn Jones yn llenwi rôl y capten.

Fe fydd yn cymryd yr awenau gan Sam Warburton ac mae saith chwaraewr di-gap hefyd wedi eu henwi gan gynnwys Thomas Young, Olly Cracknell, Ashton Hewitt a Steffan Evans ar gyfer y garfan o 36 chwaraewr.

O’r chwaraewyr sydd heb ennill capiau, dim ond dau sydd wedi chwarae i garfanau o’r blaen sef Aled Davies a Rory Thornton.

‘Braint’

Dywedodd Prif Hyfforddwr dros dro Cymru Rob Howley: “Mae’n fraint cael dewis Alun Wyn fel capten, bydd ei brofiad eang fel chwaraewr ac arweinydd yn helpu i yrru’r garfan ymlaen a dwi’n credu bydd yn ffynnu yn y rôl.”

Wrth drafod y chwaraewyr sydd heb ennill capiau dywedodd: “Mae blas a ffresni i’r garfan, gyda saith chwaraewr di-gap sydd wedi haeddu’r cyfle ac mi fydd hi yn gyffrous i weld sut fyddan  nhw’n  perfformio ar lefel rhyngwladol.”

Dyma’r garfan:

Blaenwyr:

Scott Andrews (Gleision) (13 Cap), Nicky Smith (Gweilch) (7 Cap), Rob Evans (Scarlets) (12 Cap), Rhodri Jones (Gweilch) (14 Cap), Tomas Francis (Exeter Chiefs) (17 Cap), Samson Lee (Scarlets) (29 Cap), Kristian Dacey (Gleision) (3 Cap), Ken Owens (Scarlets) (45 Cap), Scott Baldwin (Gweilch) (28 Cap), Jake Ball (Scarlets) (21 Cap) Alun Wyn Jones (Gweilch) (105 Cap) Rory Thornton (Gweilch (Di-gap) Luke Charteris (Caerfaddon) (71 Cap) Cory Hill (Dreigiau) (3 Cap) James King (Gweilch) (10 Cap) Justin Tipuric (Gweilch) (46 Cap) Olly Cracknell (Gweilch) (Di-gap) Ross Moriarty (Caerloyw) (12 Cap) Taulupe Faletau (Caerfaddon) (62 Cap) Sam Warburton (Gleision) (69 Cap) Thomas Young (Wasps) (Di-gap)

Olwyr:

Gareth Davies (Scarlets) (21 Cap) Rhys Webb (Gweilch) (23 Cap) Aled Davies (Scarlets) (Di-gap) Dan Biggar (Gweilch) (51 Cap) Sam Davies (Gweilch) (3 Cap)Owen Williams (Caerlŷr) (Di-gap) Jamie Roberts (Harlequins) (86 Cap) Jonathan Davies (Scarlets) (59 Cap) Scott Williams (Scarlets) (41 Caps) Ashton Hewitt (Dreigiau) (Di-gap) Alex Cuthbert (Gleision) (44 Cap) Steffan Evans (Scarlets) (Di-gap) George North (Seintiau Northampton) (65 Cap) Liam Williams (Scarlets) (38 Cap) Leigh Halfpenny (Toulon) (66 Cap)

Allan oherwydd anafiadau:

Keelan Giles

Gareth Anscombe

Gethin Jenkins

Dan Lydiate