Gweilch 47–7 Lyon
Sicrhaodd y Gweilch eu lle yn wyth olaf Cwpan Her Ewrop gyda buddugoliaeth swmpus dros Lyon ar y Liberty brynhawn Sul.
Mae’r fuddugoliaeth bwynt bonws dros y Ffrancwyr yn sicrhau gêm gartref i’r Cymry yn y rownd go-gynderfynol.
Rhoddodd cais Curtis Browning a throsiad Mike Harris fantais gynnar i’r ymwelwyr cyn i’r Gweilch daro nôl i arwain ar yr egwyl gyda chais yr un i Dan Baker a Kieron Fonotia.
Un tîm oedd ynddi wedi’r egwyl ac roedd pwynt bonws y Gweilch yn ddiogel bum munud wedi troi diolch i geisiau Hanno Dirksen a James King.
Ychwanegodd Dan Evans, Justin Tipuric a Sam Beard dri chais arall yn yr hanner awr olaf wrth i’r tîm cartref droi buddugoliaeth gyfforddus yn grasfa.
Mae’r canlyniad, pumed buddugoliaeth bwynt bonws y Gweilch yng ngrŵp 2, yn diogelu eu lle ar frig y tabl ac yn golygu y byddant yn chwarae ar y Liberty yn yr wyth olaf hefyd.
.
Gweilch
Ceisiau: Dan Baker 30’, Kieron Fonotia 36’, Hanno Dirksen 41’, James King 46’, Dan Evans 52’, Justin Tipuric 55’, Sam Beard 72’
Trosiadau: Dan Biggar 30’, 41’, 46’, 52’, 55’, 72’
.
Lyon
Cais: Curtis Browning 15’
Trosiad: Mike Harris 15’
Cerdyn Melyn: Ti’i Paulo 30’