Scarlets 22–22 Saracens

Daeth gobeithion Ewropeaidd y Scarlets i ben brynhawn Sul wrth i gais hwyr Chris Ashton gipio gêm gyfartal i’r Saracens ar Bar y Scarlets.

Roedd angen buddugoliaeth o leiaf ar y Cymry i gadw eu gobeithion main yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn fyw ond cipwyd y fuddugoliaeth honno oddi arnynt gyda symudiad olaf y gêm.

Dechreuodd y Scarlets ar dân a bu bron i Ken Owens sgorio’r cais agoriadol wedi chwe munud ond collodd y bachwr reolaeth ar y bêl wrth ymestyn at y gwyngalch.

Bu rhaid i’r tîm cartref fodloni yn hytrach ar dri phwynt o droed Dan Jones fel gwbor am ddeg munud cyntaf cryf.

Tarodd y Saracens yn ôl yn syth gyda chais wrth i Nathan Earle blymio drosodd yn y gornel chwith wedi dwylo da Alex Lozowski.

Aeth Bois y Sosban yn ôl ar y blaen gydag ail gic gosb Jones ac roedd y ddau dîm yn edrych yn beryglus gyda’r bêl yn eu dwylo.

Doedd dim cais arall i fod cyn hanner amser serch hynny ond fe wnaeth y tîm cartref ymestyn eu mantais i bedwar pwynt gyda thrydedd cic lwyddiannus Jones, 9-5 y sgôr wrth droi.

Ymestynnodd Jones fantais y Scarlets gyda thri phwynt arall yn gynnar yr ail hanner ond roedd y Saeson yn gyfartal wedi cais gan Ashton a throsiad Farrell.

Wnaeth hi ddim aros yn gyfartal yn hir wrth i gais Scott Williams a throsiad Jones roi’r Scarlets yn ôl ar y blaen, y canolwr yn croesi o dan y pyst wedi pas hir Aled Davies.

Cyfnewidiodd Ferrell a Jones gic gosb yr un wedi hynny ond roedd saith pwynt yn gwahanu’r ddau dîm o hyd wrth i’r cloc droi’n goch.

Daeth un cyfle olaf i’r ymwelwyr serch hynny a llwyddodd Ashton i lithro at y llinell a’i chyrraedd o drwch blewyn. Trosiad syml a oedd yn aros Farrell a cipwyd gêm gyfartal gyda chic olaf y gêm.

Mae’r canlyniad yn gadael y Scarlets yn drydydd yng ngrŵp 3 Cwpan Pencampwyr Ewrop gydag un gêm yn weddill.

.

Scarlets

Cais: Scott Williams 53’

Trosiad: Dan Jones 53’

Ciciau Cosb: Dan Jones 9’, 17’, 36’, 47’, 74’

.

Saracens

Ceisiau: Nathan Earle 13’, Chris Ashton 50’, 80’

Trosiad: Owen Farrell 50’, 80’

Cic Gosb: Owen Farrell 71’

Cerdyn Melyn: Will Skelton 78’