Dreigiau 34–10 Enisei-STM
Mae gobeithion y Dreigiau o gyrraedd wyth olaf Cwpan Her Ewrop yn fyw o hyd diolch i fuddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn Enisei-STM ar Rodney Parade nos Wener.
Wyth pwynt a oedd yn gwahanu’r tîm cartref a’r ymwelwyr o Rwsia hanner ffordd trwy’r ail hanner ond y Dreigiau aeth â hi yn gyfforddus yn y diwedd wedi tri chais yn y chwarter olaf.
Rhoddodd cais y bachwr, T. Rhys Thomas, a chicio cywir Dorian Jones dri phwynt ar ddeg o fantais i’r Dreigiau wrth droi.
Dechreuodd Enisei’r ail hanner yn dda serch hynny gyda’r asgellwr, Denis Simplikevich, yn cau’r bwlch gyda chais.
Dim ond yn yr ugain munud olaf y dechreuodd y Cymry dorri’n rhydd ond fe wnaethant hynny mewn steil gyda phwynt bonws diolch i geisiau Rhys Buckley a Harrison Keddie (2).
Roedd digon o amser ar ôl i Igor Kuashov groesi am gais cysur i’r Rwsiaid ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi.
Mae’r canlyniad yn rhoi’r Dreigiau yn ail yn nhabl grŵp 3 gydag un gêm yn weddill.
.
Dreigiau
Ceisiau: T. Rhys Thomas 20’, Rhys Buckley 63’, Harrison Keddie 73’, 75’
Trosiadau: Dorian Jones 20’, Angus O’Brien 63’, 73’, 75’
Ciciau Cosb: Dorian Jones 5’, 32’
.
Enisei-STM
Ceisiau: Denis Simplikevich 54’, Igor Kuashov 80’