Sam Warburton (Llun: David Davies/PA)
Fe allai Alun Wyn Jones arwain tîm rygbi Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad pe bai Sam Warburton yn rhoi’r gorau iddi, yn ôl adroddiadau.

Daeth y newyddion brynhawn ddoe fod y blaenasgellwr yn ystyried ei ddyfodol mewn ymgais i wella’i berfformiadau ei hun ar y cae, gyda chryn dipyn o gystadleuaeth am lefydd ar drothwy taith y Llewod i Seland Newydd yn yr haf.

Fe fydd ymgyrch Cymru yn y Chwe Gwlad yn dechrau yn erbyn yr Eidal yn Rhufain fis nesaf.

Mae Sam Warburton, ers cael ei benodi yn 2011, wedi bod yn gapten ar ei wlad 49 o weithiau, gan guro record flaenorol Ryan Jones (33).

Fe, hefyd, oedd capten y Llewod yn Awstralia bedair blynedd yn ôl.

Mae lle i gredu hefyd y gallai Sam Warburton gyhoeddi nad yw am gael ei ystyried i fod yn gapten y Llewod, gydag Alun Wyn Jones ymhlith y rhai a allai gael eu dewis yn ei le.