Glasgow 29–15 Gleision

Siwrnai seithug a gafodd y Gleision wrth iddynt deithio i Scotstoun i herio Glasgow yn y Guinness Pro12 nos Sadwrn.

Tri phwynt oedd ynddi ar hanner amser ond Glasgow a oedd y tîm gorau heb os a buddugoliaeth gyfforddus a oedd hi i’r Albanwyr yn y diwedd.

Glasgow oedd tîm gorau’r munudau agoriadol a doedd fawr o syndod wrth iddynt sgorio’r cais cyntaf wedi deuddeg munud. Hyrddiodd y bachwr, Pat MacArthur, drosodd wedi cyfnod hir o bwyso yng nghysgod pyst y Gleision a throsodd Finn Russell i roi saith pwynt o fantais i’w dîm.

Daeth cyfle da i’r Gleision unioni pethau ar ymweliad prin i 22 Glasgow hanner ffordd trwy’r hanner ond gollyngodd Alex Cuthbert y bêl ar yr eiliad dyngedfennol.

Parhau i reoli’r tir a’r meddiant a wnaeth Glasgow wedi hynny, ond gyda dim ond tri phwynt o droed Russell i’w ddangos am eu goruchafiaeth fe gawsant eu cosbi gan y Gleision ym munud olaf yr hanner cyntaf.

Disgynodd cic wael Russell yn garedig i ddwylo Blaine Scully a gorffennodd yr Americanwr yn daclus yn y gornel chwith, 10-7 y sgôr wrth droi wedi trosiad da Steve Shingler.

Cafodd y Gleision ddechrau da i’r ail hanner wrth i gic gosb gynnar Shingler unioni’r sgôr ond dim ond un tîm oedd ynddi wedi hynny.

Aeth Glasgow yn ôl ar y blaen gyda hanner awr yn weddill pan diriodd Peter Murchie yn dilyn bylchiad gwreiddiol Tommy Seymour.

Roedd trydydd cais yr Albanwyr ychydig funudau’n ddiweddarach fwy neu lai yn union yr un peth wrth i’r cefnwr sgorio eto yn dilyn gwaith da Seymour.

Mater o amser a oedd hi wedi hynny tan i’r tîm cartref sicrhau’r pwynt bonws ac fe wnaethant hynny pan sgoriodd James Malcolm yn dilyn sgarmes symudol effeithiol chwarter awr o ddiwedd yr wyth deg.

Cais cysur yn unig felly a oedd ymdrech hwyr Rhun Williams i’r ymwelwyr o Gymru, 29-15 y sgôr terfynol.

Mae’r Gleision yn aros yn seithfed yn nhabl y Pro12 er gwaethaf y golled ond maent yn colli mwy o dir ar y chwech uchaf.

.

Glasgow

Ceisiau: Pat MacArthur 13’, Peter Murchie 49’, 56’, James Malcolm 64’

Trosiadau: Finn Russell 14’, 50’, 57’

Cic Gosb: Finn Russell 35’

.

Gleision

Ceisiau: Blaine Scully 39’, Rhun Williams 78’

Trosiad: Steve Shingler 40’

Cic Gosb: Steve Shingler 43’