Gweilch 29–7 Connacht

Cododd y Gweilch i frig y Guinness Pro12 gyda buddugoliaeth bwynt bonws yn erbyn Connacht ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Rhuthrodd y tîm cartref ar y blaen gyda dau gais yn y chwarter awr cyntaf. Daeth y cyntaf o’r rheiny i Dan Baker yn dilyn bylchiad gwreiddiol Olly Cracknell.

Cracknell ei hun a gafodd yr ail wedi rhediad cryf arall gan y blaenasgellwr ac roedd y Gweilch bedwar pwynt ar ddeg ar y blaen diolch i ddau drosiad Sam Davies.

Bu rhaid aros tan yr ail hanner am y cais nesaf wrth i’r prop, Nicky Smith, hyrddio drosodd chwarter awr wedi’r egwyl.

Gorffennodd Sam Davies y gêm yn y gell gosb wedi tacl uchel ond er i Sean O’Brien sgorio cais cysur i Connacht, y Gweilch a gafodd y gair olaf wrth i Ashley Beck groesi yn y gornel chwith i sicrhau’r pwynt bonws.

Mae’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn codi’r Gweilch dros Leinster a Munster i frig y Pro12.

.

Gweilch

Ceisiau: Dan Baker 11’, Olly Cracknell 13’, Nicky Smith 56’, Ashley Beck 80’

Trosiadau: Sam Davies 12’, 14’, 57’

Cic Gosb: Sam Davies 44’

Cerdyn Melyn: Sam Davies 70’

.

Connacht

Ceisiau: Sean O’Brien 75’

Trosiadau: John Cooney 77’