Dreigiau 26–8 Treviso

Cafodd y Dreigiau fuddugoliaeth brin wrth i Treviso ymweld â Rodney Parade yn y Guinness Pro12 nos Wener.

Roedd cais yr un ym mhob hanner ynghyd â chicio cywir Angus O’Brien yn ddigon i’r tîm cartref mewn buddugoliaeth gyfforddus.

Rhoddodd cic gosb gynnar O’Brien y Dreigiau ar y blaen ond yr ymwelwyr o’r Eidal a gafodd y cais agoriadol diolch i gyn fewnwr y Gweilch, Tito Tebaldi.

Ymestynnodd Tommaso Allan fantais Treviso gyda chic gosb wedi hynny ond yn ôl y daeth y Dreigiau.

Tiriodd Sarel Pretorius o dan y pyst i ddechrau ac er i’r mewnwr cartref orffen yr hanner yn y gell gosb roedd y Dreigiau bump pwynt ar y blaen wrth droi diolch i gic gosb hwyr O’Brien.

Ychwanegodd O’Brien gôl adlam a chic gosb arall wrth ymestyn mantais ei dîm i un pwynt ar ddeg yn gynnar yn yr ail hanner cyn i ail gais sicrhau’r fuddugoliaeth.

Lewis Evans a oedd sgoriwr y cais hwnnw wedi sgarmes symudol, 26-8 y sgôr terfynol wedi trosiad Dorian Jones.

Mae’r canlyniad yn codi’r Dreigiau dros Gaeredin i’r nawfed safle yn nhabl y Pro12.

.

Dreigiau

Ceisiau: Sarel Pretorius 26’, Lewis Evans 68’

Trosiadau: Angus O’Brien 27’, Dorian Jones 68’

Ciciau Cosb: Angus O’Brien 5’, 40’, 54’

Gôl Adlam: Angud O’Brian 50’

Cerdyn Melyn: Sarel Pretorius 35’

.

Treviso

Ceisiau: Tito Tebaldi 7’

Ciciau Cosb: Tommaso Allan 23’