Leigh Halfpenny
Mae pennaeth Undeb Rygbi Cymru  yn honni eu bod wedi “cynnig y ddêl orau bosib” er mwyn ceisio denu Leigh Halfpenny yn ôl o Ffrainc.

Mae’r asgellwr/cefnwr yn agosáu at ddiwedd ei gytundeb presennol gyda Toulon, ond mae adroddiadau yn awgrymu eu bod am geisio ei ddenu i aros gyda’r clwb ac wedi paratoi dêl chwe ffigwr ar ei gyfer.

Un posibiliad pan ddaw’r cytundeb i ben yw bod Leigh Halfpenny yn dychwelyd i Gymru ar ddêl wedi ei lunio ar y cyd rhwng Undeb Rygbi Cymru a chlwb rhanbarthol, mwy na thebyg y Gleision.

“Yn amlwg rydyn ni gyd yn gobeithio neith e ddod yn ôl ond mae’n gwneud penderfyniadau dros ei hun ac rydyn ni’n parchu ei benderfyniad,” meddai pennaeth Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips.

“Dw i’n gobeithio y bydd e’n dychwelyd, ond os dyw e ddim, wna’ i barchu hynna.”

“Gallwn ei ddewis i chwarae i Gymru beth bynnag, ond dw i’n siŵr fod Leigh yn ymwybodol bydd yn rhaid iddo wneud penderfyniad yn yr wythnosau nesa’.”