Dreigiau 0–10 Gweilch

Y Gweilch aeth â hi nos Sul wrth i’r Dreigiau eu croesawu i Rodney Parade hynod fwdlyd yn y Guinness Pro12.

Roedd y frwydr o dan amheuaeth am gyfnod oherwydd cyflwr y cae yng Nghasnewydd a chwaraeodd hynny ran amlwg yn safon y gêm.

Efallai fod cyflwr y cae wedi peri pryder i’r Gweilch cyn y gêm ond deuddeg munud yn unig a gymerodd hi i Justin Tipuric groesi am gais cyntaf y noson. Y Gweilch yn rhedeg cic Carl Meyer yn ôl at y Dreigiau a’r blaenasgellwr rhyngwladol wrth law i orffen y symudiad, 0-7 y sgôr wedi trosiad Dan Biggar.

Chwaraeodd yr ymwelwyr ddeg munud gyda phedwar dyn ar ddeg wedi hynny yn dilyn cerdyn melyn Tom Habberfield am arafu’r bêl yn ardal y dacl ond llwyddodd ei gyd chwaraewyr i amddiffyn yn effeithiol yn ei absenoldeb.

Tipyn o “dennis awyr” a gafwyd am weddill yr hanner cyntaf wrth i’r ddau dîm gicio’r bêl i’w gilydd i osgoi ei rhedeg ar y cae mwdlyd. Cafodd Angus O’Brien un cyfle i gau’r bwlch ond methu ei gic at y pyst a wnaeth maswr ifanc y Dreigiau.

Roedd bwriad Gweilch yn amlwg ar ddechrau’r ail hanner wrth iddynt wrthod sawl cyfle i fynd am y pyst a chicio at y gornel ond llwyddodd y Dreigiau i amddiffyn yn gymharol gyfforddus.

Wnaeth y tîm cartref ddim bygwth llawer yn y pen arall serch hynny ac amddifadwyd hwy o hyd yn oed bwynt bonws pan giciodd Biggar gic gosb i’r Gweilch wyth munud o’r diwedd, 0-10 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch i’r ail safle yn nhabl y Pro12 ac yn cadw’r Dreigiau’n ddegfed.

.

Gweilch

Cais: Justin Tipuric 13’

Trosiad: Dan Biggar 14’

Cic Gosb: Dan Biggar 73’

Cerdyn Melyn: Tom Habberfield 18’