Mae rhes o anafiadau wedi golygu bod y Gweilch yn gorfod dibynnu ar brofiad dau o’r gynnau mawr pan fyddan nhw’n ymweld â Rodney Parade i herio Dreigiau Gwent ar Ionawr 1.

Tra bydd Paul James yn gwneud ei 210fed ymddangosiad, a Dan Biggar yn gwneud ei 196ed ymddangosiad dros y Gweilch ar Ddydd Calan, mae rhestr y chwaraewyr sydd ddim ar gael i’w dewis, yn un faith.

Mae Tyler Ardron wedi anafu’i fawd; Dmitri Arhip wedi brifo’i ysgwydd; a Bradley Davies yn diodde’ o anaf i’w ben-glin. Mae Tom Grabham yn dal i gael trafferth gyda’i goes, tra bod Jeff Hassler mewn poen gyda’i Achilles yn ei droed; a Ben John yn dal i nyrsio anaf i dop ei goes.

Dyw Dan Lydiate ddim ar gael oherwydd anaf i’w ben-glin; nac Eli Walker oherwydd anaf i’w droed. Mae Owen Watkin hefyd yn cwyno oherwydd anaf i’w ben-glin; tra bod Rhys Webb mewn trafferthion gydag anaf i’w ffêr.

“Roedd y gêm ddiwetha’ yn erbyn y Scarlets yn ddarbi go iawn,” meddai Steve Tandy, prif hyfforddwr y Gweilch, “felly roedd hi’n gêm galed a chorfforol.

“Fe allwn ni ddisgwyl mwy o gêm yn erbyn y Dreigiau ar Rodney Parade ddydd Sul,” meddai wedyn. “Mae’r Dreigiau’n dîm da, ac maen nhw bob amser yn rhoi her. Fe fydd yna dorf dda hefyd, a thipyn o awyrgylch, gobeithio.

“O’n rhan ni, fe fyddwn ni’n gwneud ein gorau i gadw’n pennau. R’yn ni’n mwynhau chwarae rygbi, ac mae’n hanfodol i ni ddal ati a chario’r holl bethau fyddwn ni wedi bod yn ei wneud ar y maes ymarfer, i’r maes yn Rodney Parade.”

Y tîm i herio’r Dreigiau

15 Sam Davies, 14 Dafydd Howells, 13 Kieron Fonotia, 12 Josh Matavesi, 11 Dan Evans, 10 Dan Biggar, 9 Tom Habberfield, 8 James King, 7 Justin Tipuric, 6 Olly Cracknell, 5 Alun Wyn Jones (c), 4 Lloyd Ashley, 3 Ma’afu Fia, 2 Scott Baldwin, 1 Paul James.

Ar y fainc: 16 Sam Parry, 17 Nicky Smith, 18 Rhodri Jones, 19 Rory Thornton, 20 Dan Baker, 21 Sam Underhill, 22 Brendon Leonard, 23 Hanno Dirksen.