Mae prif hyfforddwyr Dreigiau Gwent, Kingsley Jones, wedi gwneud chwe newid i’r tîm fydd yn croesawu’r Gweilch i Rodney Parade ar Ionawr 1.

Mae’r cefnwr, Carl Meyer, yn ei ôl wedi anaf; ac mae’r asgellwyr Pat Howard ac Ashton Hewitt yn y lein-yp hefyd. Yng nghanol cae, fe fydd Tyler Morgan yn cael cwmni Sam Beard, wrth i Angus O’Brien ddychwelyd, ynghyd â Tavis Knoyle.

Mae’r rheng flaen yn newid yn hollol, wrth i’r prop profiadol Phil Price gael ei enwi ochr yn ochr â’r bachwr Elliot Dee a’r prop pen-tynn, Brok Harris. Un newid sydd yn yr ail reng – Nick Crosswell yn ymuno â Cory Hill.

Yn y rheng ôl, does dim newid. Mae’r capten, Lewis Evans, yn cadw ei le ochr yn ochr ag Ollie Griffiths ac Ed Jackson yng nghrys rhif 8.

Mae yna chwe newid ar y fainc hefyd, wrth i Rhys Buckley, Sam Hobbs, Lloyd Fairbrother, Rynard Landman, Dorian Jones ac Adam Warren ymuno â Matthew Screech a Sarel Pretorius.

Y tîm yn llawn

15 Carl Meyer, 14 Pat Howard, 13 Tyler Morgan, 12 Sam Beard, 11 Ashton Hewitt, 10 Angus O’Brien, 9 Tavis Knoyle; 1 Phil Price, 2 Elliot Dee, 3 Brok Harris, 4 Nick Crosswell, 5 Cory Hill, 6 Lewis Evans ©, 7 Ollie Griffiths, 8 Ed Jackson.

Ar y fainc: Rhys Buckley, Sam Hobbs, Lloyd Fairbrother, Matthew Screech, Rynard Landman, Sarel Pretorius, Dorian Jones, Adam Warren.