George North (Llun: S4C)
Ddylai Clwb Rygbi Northampton ddim bod wedi gadael i George North ddychwelyd i’r cae ar ôl cael cyfergyd, yn ôl Grŵp Adolygu a Rheoli Cyfergydion.

Ond fydd y clwb ddim yn cael eu cosbi yn dilyn y gêm yn erbyn Caerlŷr yn Uwch Gynghrair Aviva Lloegr ar Ragfyr 3.

Cafodd ei anafu yn ystod hanner cynta’r gêm ac roedd yn ymddangos fel pe bai’n gorwedd yn anymwybodol ar lawr.

Ond ar ôl cael asesiad meddygol ar yr ystlys, fe gafodd e ddychwelyd i’r cae yn yr ail hanner.

Er bod “digon o dystiolaeth” i dynnu George North oddi ar y cae, dywedodd y panel nad oedd y clwb wedi “anwybyddu lles y chwaraewr yn fwriadol”.

Er na fydd y clwb yn cael eu cosbi, mae’r panel wedi cyflwyno naw o argymhellion, sy’n cynnwys defnyddio’r 13 munud a ganiateir am asesiad i’r pen yn llawn oni bai bod rheswm da dros ddefnyddio llai o amser.

Yn ogystal, bydd rhaid i feddyg asesu fideo o’r digwyddiad er mwyn sicrhau bod penderfyniad cywir yn cael ei wneud cyn tynnu chwaraewr oddi ar y cae.

Mae’r panel wedi cyhoeddi adroddiad 17 tudalen yn dilyn y gwrandawiad, sy’n cynnwys y casgliad nad yw George North wedi dioddef unrhyw sgil effeithiau tymor hir ar ôl y digwyddiad.