James Davies (Llun y Scarlets)
Mae blaenasgellwr rhanbarth rygbi’r Scarlets, James Davies wedi’i wahardd am dair wythnos am regi a gwneud stumiau ar ddyfarnwr yn ystod gêm Ewropeaidd.

Cafodd ei enwi yn dilyn gêm yn erbyn Toulon yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop dros y penwythnos.

Mae hyfforddwr y Scarlets, Wayne Pivac eisoes wedi dweud y bydd y chwaraewr yn cael ei gosbi’n fewnol gan y rhanbarth, gan wrthod wfftio’r posibilrwydd y gallai gael ei ddiswyddo.

Gallai fod wedi cael ei wahardd am hyd at flwyddyn gan awdurdod ECPR sy’n rheoli rygbi yn Ewrop.

Yn ôl y Scarlets, mae James Davies wedi ymddiheuro yn dilyn y digwyddiad.