Grenoble 7–59 Gweilch

Cafodd y Gweilch fuddugoliaeth yng Nghwpan Her Ewrop nos Wener ar ôl aros diwrnod yn ychwanegol i wynebu Grenoble yn y Stade Lesdiguieres.

Cafodd y gêm ei gohirio nos Iau gan fod y cae wedi rhewi ond roedd y Gweilch yn boeth wrth i’r gêm ei chwarae ddiwrnod yn ddiweddarach gan sicrhau pwynt bonws cyn hanner amser a chroesi am naw cais i gyd.

Pum munud yn unig a oedd ar y cloc pan groesodd y canolwr, Kieron Fonotia, am gais cyntaf y gêm a’i gais gyntaf ef dros y Gweilch.

Ychwanegodd Sam Parry’r ail yn fuan wedyn yn dilyn sgarmes symudol effeithiol ac roedd yr ymwelwyr bedwar pwynt ar ddeg ar y blaen diolch i ddau drosiad Dan Biggar.

Ymatebodd Grenoble gyda chais Clement Gelin a throsiad Gilles Bosch ond tarodd y Gweilch yn ôl bron yn syth.

Croesodd y capten, Alun Wyn Jones, am drydydd cais cyn i Josh Matavesi sicrhau’r pwynt bonws gyda phedwerydd funud cyn yr egwyl, 7-28 y sgôr wrth droi.

Ymunodd yr asgellwyr yn yr hwyl wedi’r egwyl gyda Dafydd Howells yn croesi am ddau gais i ddechrau cyn i Keelan Giles efelychu ei gamp wrth dirio seithfed ac wythfed ei dîm.

Roedd digon o amser ar ôl i Biggar gael cais hefyd wrth i’r maswr orffen y gêm gyda 19 pwynt.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Gweilch ar frig Grŵp 2 gyda thair buddugoliaeth allan o dair.

.

Grenoble

Cais: Clement Gelin 25’

Trosiad: Gilles Bosch 25’

.

Gweilch

Ceisiau: Kieron Fonotia 5’, Sam Parry 12’, Alun Wyn Jones 27’, Josh Matavesi 39’, Dafydd Howells 50’, 58’, Keelan Giles 64’, 76’, Dan Biggar 79’

Trosiadau: Dan Biggar 5’, 12’, 27’, 39’, 58’, 64’, 76’