Robin McBryde
Robin McBryde fydd yn arwain tîm rygbi Cymru ar daith i Ynysoedd y De yn absenoldeb Warren Gatland a Rob Howley dros yr haf.

Mae’r prif hyfforddwr a’r is-hyfforddwr ynghlwm wrth daith y Llewod i Seland Newydd. Fe fydd Rob Howley yn gyfrifol am hyfforddi olwyr y Llewod fel rhan o dîm hyfforddi Warren Gatland.

Dyma’r trydydd tro y bydd Robin McBryde wedi cael arwain y tîm cenedlaethol – daeth y ddau dro arall yn 2009 a 2013 yn ystod teithiau’r Llewod.

Dywedodd rheolwr tîm Cymru, Alan Phillips y bydd yr haf yn gyfle i’r tri ohonyn nhw ddatblygu eu gyrfa fel hyfforddwyr, a bod Undeb Rygbi Cymru’n croesawu hynny.

Mae disgwyl cadarnhad yr wythnos nesa’ ynghylch pwy fydd yn cynorthwyo Robin McBryde, ynghyd â manylion gemau prawf yn erbyn Tonga a Samoa.

“Mae’r daith yn gyfle cyffrous i’r garfan, mae hi’n fraint bob amser cael cynrychioli’ch gwlad ac mae gwneud hynny dramor yn golygu cyfrifoldeb ychwanegol,” meddai Robin McBryde.

Ymddangosodd y cyn-fachwr yng nghrys Cymru am y tro cyntaf yn erbyn Ffiji yn 1994.

“Byddwn ni’n wynebu dwy wlad rygbi angerddol a bydd o’n her anferth i’r chwaraewyr, ond yn gyfle iddyn nhw ddangos be fedran nhw wneud yn y crys coch.

“I fi, mae’n gyfle cyffrous arall i arwain y tîm. Mae’n rhywbeth dw i wedi’i fwynhau’n fawr yn y gorffennol a dw i’n edrych ymlaen yn fawr at wneud o eto ar ddiwedd y tymor.”