Gweilch 31–22 Caeredin

Cafodd y Gweilch fuddugoliaeth gyfforddus a phwynt bonws wrth i Gaeredin ymweld â’r Liberty yn y Guinness Pro12 nos Wener.

Rhoddodd cic gosb Sam Davies y Gweilch dri phwynt ar y blaen cyn i’w gic amddiffynnol wael arwain at gais cyntaf y gêm i asgellwr Caeredin, Will Helu.

Cafwyd ymateb da gan y Gweilch gyda chais i Dafydd Howells, pêl lân o’r lein a’r asgellwr yn hollti trwy’r amddiffyn gydag onlg dda.

Roedd y tîm cartref ym mhellach ar y blaen erbyn hanner ffordd trwy’r hanner diolch i gais Dan Baker a throsiad Davies.

Tarodd Caeredin yn ôl gyda chais braidd yn ddadleuol. Sgoriodd Blair Kinghorn o gic uchel Duncan Weir a chafodd y cais ei ganiatáu er i Dan Evans gael ei rwystro wrth gystadlu am y bêl uchel.

Rhoddodd trosiad Weir yr ymwelwyr yn ôl o fewn pump pwynt ond roedd blaenwyr y Gweilch yn cael y gorau o’u gwrthwynebwyr ac roedd y prop, Ma’afu Fia wedi croesi am drydydd cais o fewn dim.

Cic gosb gan Weir oedd pwyntiau olaf yr hanner ond roedd y Gweilch naw pwynt ar y blaen ar yr egwyl, 24-15 y sgôr wrth droi.

Roedd y pwynt bonws yn ddiogel i’r Gweilch yn gynnar yn yr ail gyfnod diolch i gais y gwibiwr ifanc ar yr asgell, Keelan Giles.

Treuliodd Caeredin hanner yr ail hanner gyda phedwar dyn ar ddeg wedi cardiau melyn i Grant Gilchrist ac Allan Dell ond bodloni ar bewdar cais a wnaeth y Gweilch wrth i’r gêm orffen braidd yn flêr.

Cafodd Bill Mata gais cysur i Gaeredin ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi i’r ymwelwyr, 31-22 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch i’r ail safle yn nhabl y Pro 12.

.

Gweilch

Ceisiau: Dafydd Howells 13, Dan Baker 18’, Ma’afu Fia 33’, Keelan Giles 44’

Trosiadau: Sam Davies 14’, 19’, 34’, 45’

Cic Gosb: Sam Davies 6’

.

Caeredin

Ceisiau: Will Helu 8’, Blair Kinghorn 27’, Viliame Mata 78’

Trosiadau: Duncan Weir 28’, 78’

Cic Gosb: Duncan Weir 28’

Cardiau Melyn: Grant Gilchrist 53’, Allan Dell 66’