Scarlets 38–29 Leinster

Cafodd y cefnogwyr wledd ar Barc y Scarlets nos Wener wrth i’r tîm cartref drechu pedwar dyn ar ddeg Leinster yn y Guinness Pro12.

Roedd gan Bois y Sosban fantais iach hyd yn oed cyn i Barry Daly dderbyn cerdyn coch i Leinster ar ddechrau’r ail hanner. Llwyddodd y Gwyddelod i gau mymryn ar y bwlch wedi hynny ond y Scarlets aeth â hi.

Rhoddodd ceisiau Johnny McNicholl, Werner Kruger a Steffan Evans a chicio cywir Rhys Patchell fantais o 21 pwynt i 3 wedi hanner awr o chwarae.

Caeodd Leinster y bwlch hwnnw gyda chais ddau funud o ddiwedd yr hanner cyntaf ond wnaeth yr ail hanner ddim dechrau cystal i’r Gwyddelod.

Cafodd Barry Daly gerdyn coch am dacl beryglus ar Aled Thomas wrth i’r cefnwr neidio am bêl uchel.

Manteisiodd y Scarlets bron yn syth gyda un o geisiau gorau’r gêm, dwylo da gan yr olwyr yn lledu’r bêl i’r wythwr, Will Boyd, groesi yn y gornel chwith.

Ychwanegodd Ryan Elias bumed cais i’r tîm cartref cyn i geisiau Adam Byrne, Tom Daly ac Andrew Porter roi pwynt bonws a gwedd fwy parchus ar y sgôr i bedwar dyn ar ddeg Leinster.

Mae’r canlyniad yn codi’r Scarlets i’r pedwerydd safle yn nhabl y Pro12.

.

Scarlets

Ceisiau: Johnny McNicholl 7’, Werner Kruger 21’, Steffan Evans 31’, Will Boyd 42’, Ryan Elias 51’

Trosiadau: Rhys Patchell 8’, 22’, 32’, 43’, 53’

Cic Gosb: Dan Jones 71’

.

Leinster

Ceisiau: Richardt Strauss 38’, Adam Byrne 55’, Tom Daly 59’, Andrew Porter 80’

Trosiadau: Isa Nacewa 55’, 59’, 80’

Ciciau Cosb: Isa Nacewa 26’

Cerdyn Melyn: Mike McCarthy 21’

Cerdyn Coch: Barry Daly 41’