Connacht 18–7 Gleision

Cafodd y Gleision siwrnai seithug i orllewin Iwerddon nos Wener wrth golli yn erbyn Connacht ar Faes Chwarae Galway yn y Guinness Pro12.

Sgoriodd John Cooney dri phwynt ar ddeg i’r tîm cartref ac ychwangodd y dylanwadol Bundee Aki gais i selio’r fuddugoliaeth i’r Gwyddelod.

Trosodd Cooney ei gais ei hun wedi chwarter awr i roi ei dîm saith pwynt ar y blaen ond wnaeth hi ddim aros felly yn hir.

Roedd y Gleision yn gyfartal o fewn dau funud diolch i gais yr asgellwr, Tom James, a throsiad Steve Shingler.

Felly yr arhosodd hi am gyfnod hir wedi hynny ond roedd Connacht dri phywnt ar y blaen wrth droi diolch i gic olaf yr hanner gan Conney.

Ychwanegodd Conney dri phwynt arall yn gynnar yn yr ail hanner cyn i gais y canolwr, Aki, roi golau dydd rhwng y timau.

Mae’r canlyniad yn gadael y Gleision yn y seithfed safle yn nhabl y Pro12.

.

Connacht

Ceisiau: John Cooney 15’, Bundee Aki 56’

Trosiad: John Cooney 16’

Ciciau Cosb: John Cooney 40’, 49’

.

Gleision

Cais: Tom James 17’

Trosiad: Steve Shingler 18’