Mae Robin McBryde wedi annog tîm rygbi Cymru i gipio’r cyfle o orffen gemau’r Hydref ar uchafbwynt heddiw.

Byddai buddugoliaeth yn erbyn De Affrica yn Stadiwm y Principality yn golygu bod Cymru wedi ennill tair o bedair gêm yn y gyfres eleni.

Ond ar ôl cael cweir yn ei gêm yn erbyn Awstralia ac ennill o drwch blewyn yng ngemau yn erbyn yr Ariannin a Japan, mae’r cyhoedd a’r cyfryngau wedi bod yn feirniadol o berfformiadau’r tîm.

“Allwn ni ddim twyllo ein hunain,” meddai’r hyfforddwr cynorthwyol, Robin McBryde.

“Os yw’r perfformiad o safon, dw i’n meddwl bod y canlyniad yn gofalu am eu hun, felly rydym am i’r bechgyn wella.

“Dyma’r cyfle olaf i ddangos beth allwn ni wneud yn erbyn tîm o safon, a gallwn ni ddim ei golli…. Mae’n rhaid i ni ddangos beth allwn ni wneud.

“Byddai’n dda gorffen ar uchafbwynt.”

Ychwanegodd ei fod yn “rhwystredig” nad yw’r garfan wedi bod yn perfformio cystal yn ddiweddar, sydd ddim yn “adlewyrchu talent” y tîm.

Y ffefryn i ennill?

Mae’n debygol y bydd y gêm heddiw yn ddigon anodd i Gymru, sydd ond wedi curo tîm De Affrica dwywaith o 31 o gemau.

Er hynny, dydy De Affrica ddim wedi chwarae’n dda iawn, ar ôl cael eu trechu gan yr Eidal – y seithfed golled i’r tîm yn ystod 2016.

Mae gan yr ochr cartref fantais yn nhermau profiad hefyd, gyda chapiau’r garfan yn dod at gyfanswm o 800, o gymharu â 260 De Affrica.