Fe wnaeth chwaraewr rygbi ladd ei hun ar ôl diodde’ sawl anaf i’w ben yn chwarae’r gamp, yn ôl adroddiadau o’r cwest i’w farwolaeth heddiw.

Cafodd Cae Trayhern, oedd yn 37, ei daro’n anymwybodol o leia’ 11 gwaith yn ystod ei yrfa gyda Dreigiau Casnewydd a Phont-y-pŵl.

Clywodd y cwest fod rhieni’r dyn wedi’i ei ganfod yn farw yn ei gartref yn y Coed-duon, Gwent, ar ôl i swyddogion iechyd meddwl fethu â dod o hyd iddo.

Roedd wedi gadael neges i’w anwyliaid yn dweud, “Rwy’n eich caru chi i gyd.”

Gwaethygu ar ôl ymddeol

Yn ôl ei fam, Althea Clarke, roedd iechyd meddwl ei mab wedi gwaethygu ar ôl iddo ymddeol o’r gêm yn 2013.

Yn ôl adroddiadau, dywedodd yn y cwest ei fod wedi cymryd misoedd i rannau o’i gof ddod yn ôl ar ôl cael anaf ac mae’n sicr bod yr anafiadau hyn wedi achosi ei farwolaeth.

Cafodd ei gyfeirio at wasanaethau iechyd meddwl ond yn dilyn chwalfa nerfol ychydig cyn iddo farw ond mae’n debyg nad oedd e am fynd i’r ysbyty.

Roedd y crwner, D T Bowen, wedi cofnodi bod Cae Trayhern wedi lladd ei hun ym mis Mehefin.