Mae Sam Davies wedi cyfaddef ei fod yn falch o gael bod yn “arwr” ac nid yn “ddihiryn” wrth iddo gicio’r gôl adlam i sicrhau buddugoliaeth i Gymru dros Siapan yng Nghaerdydd brynhawn ddoe.

Roedd hi’n gyfartal 30-30 yn yr eiliadau olaf cyn i faswr y Gweilch anelu am y pyst i roi Cymru ar y blaen o driphwynt cyn i’r chwiban olaf chwythu.

Sgoriodd Dan Lydiate, Jamie Roberts a’r capten Sam Warburton geisiau i Gymru, a daeth 15 pwynt oddi ar droed ddibynadwy Leigh Halfpenny.

Bydd yna deimlad o ryddhad ymhlith y garfan yn dilyn y perfformiad digon siomedig wrth iddyn nhw grafu’r buddugoliaeth yn y pen draw.

Ond dydy hynny ddim chwaith yn gwneud cyfiawnder â thîm grymus a chorfforol Siapan, a lwyddodd i sgorio ceisiau drwy Akihito Yamada, Kenki Fukuoka a’r eilydd Amanaki Lotoahea, ac fe giciodd Yu Tamura 13 o bwyntiau, ynghyd â dau bwynt i Timothy Lafaele.

Mae Sam Davies yn cyfaddef fod y perfformiad, os nad y canlyniad, wedi siomi’r chwaraewyr.

“Mae’r hwyliau yn y garfan braidd yn isel ar hyn o bryd. Bydden ni wedi hoffi ennill y gêm mewn modd mwy cyfforddus na hynny.

“Yn bersonol, roedd gen i jobyn i’w wneud ar y diwedd a diolch byth ’mod i wedi’i wneud e. Gwnaeth y blaenwyr jobyn da i ennill y bêl yn ôl, gan osod y llwyfan i fi daro’r bêl drosodd.

“Ry’ch chi’n ymarfer ar gyfer sefyllfaoedd fel’na bob wythnos a heddi aeth hi drosodd. Arwr neu ddihiryn oedd hi heddiw, a diolch byth mai’r arwr o’n i.

“Dyna’r math o gic ry’ch chi’n gweld yn eich meddwl, ond ar y cyfan dy’n ni ddim yn hapus â’r perfformiad.”

‘Cic adlam wych’

Talodd y prif hyfforddwr dros dro, Rob Howley deyrnged i Davies o ganlyniad i’w berfformiad yn ei ail gêm yn unig dros ei wlad.

“Dw i’n falch iawn drosto fe. Daeth e ymlaen yn erbyn Awstralia a chael effaith bositif, ac roedd e’n bwyllog iawn.

“Roedd y ffordd wnaeth e daro’r bêl i sgorio’r gôl adlam yn ffantastig. Roedd hi’n gôl adlam wych.”

Bydd Cymru’n herio De Affrica ddydd Sadwrn nesaf.