Gleision 7–31 Gweilch
Y Gweilch aeth â hi wrth i’r gwŷr o’r gorllewin deithio i Barc yr Arfau i herio’r Gleision yn y Cwpan Eingl-Gymreig nos Wener.
Doedd dim llawer yn gwahanu’r ddau dîm ar hanner ond sicrhaodd yr ymwelwyr fuddugoliaeth a phwynt bonws wrth iddynt chwarae rhan helaeth o’r ail hanner yn erbyn pedwar dyn ar ddeg.
Dechreuodd y Gweilch ar dân gyda chais Scott Otten a throsiad Phil Jones yn y ddau funud cyntaf.
Yn ôl y daeth y Gleision serch hynny ac roedd y tîm cartref yn gyfartal wedi chwarter awr diolch i gais Rhodri Davies a chic Ben Jones.
Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond cafwyd ail hanner unochrog iawn yn dilyn cerdyn coch i brop y Gleision, Anton Peikrishvili, yn gynnar ar ôl troi.
Rhoddodd cais y mewnwr, Brendon Leonard, y Gweilch yn ôl ar y blaen cyn i’r eilydd ar yr asgell, Tom O’Flaherty, ymestyn y fantais ar yr awr.
Sicrhaodd Dan Evans bwynt bonws i’r ymwelwyr gyda’r pedwerydd cais cyn i O’Flaherty ychwanegu ei eil ef a phumed ei dîm ddau funud o ddiwedd yr wyth deg, 7-31 y sgôr terfynol.
.
Gleision
Cais: Rhodri Davies 16’
Trosiad: Ben Jones 16’
Cerdyn Melyn: Anton Peikrishvili 47’
.
Gweilch
Ceisiau: Scott Otten 2’, Brendon Leonard 48’, Tom O’Flaherty 61’, 78’, Dan Evans 76’
Trosiadau: Phil Jones 2’, 48’, 61’