Rob Howley - gofyn am amynedd (Llun Cynulliad CCA2.0)
Fe fydd rhaid i gefnogwyr Cymru fod yn amyneddgar rhag rhoi gormod o bwysau ar y chwaraewr ifanc sy’n cael ei alw yn ‘ail Shane Williams’, yn ôl hyfforddwr dros dro Cymru.

Mae’n bosib y bydd yr asgellwr, Keelan Giles o’r Gweilch, yn cael ei gap cynta’ oddi ar y fainc yn y gêm yn erbyn Japan for yond mae Rob Howley wedi gofyn i’r wasg hefyd ddal yn ôl a pheidio â rhoi gormod o sylw iddo.

Yn cyfamser, mae’r ail reng Cory Hill, 24, yn paratoi am ei gap llawn cynta’ yntau, bedair blynedd ar ôl iddi  ymddangos fod ei yrfa’n rhygnu i stop.

Fe gafodd ei ollwng gan y Gleision a dim ond eleni, gyda’r Dreigiau, y mae wedi llwyddo i wneud ei farc, gan ddod i’r cae yn eilydd yn erbyn Awstralia bythefnos yn ôl.

‘Cystadleuaeth yn dda’

Yn y cyfamser, mae’r capten, Sam Warburton, yn dweud bod pob chwaraewr bellach yn poeni am ei le ar ôl i’r canolwr Jamie Roberts gael ei ddisodli yn erbyn yr Ariannin yr wythnos ddiwetha’.

Roedd y gystadleuaeth am lefydd yn beth da, meddai Warburton, gan rybuddio y byddai Jamie Roberts eisiau gwneud argraff fawr yn y gêm yfory.