Fe fydd Sam Warburton yn ei ôl yn gapten
Mae yna ddeg o newidiadau i’r tîm Cymru fydd yn wynebu Japan yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Mae’r hyfforddwr dros-dro, Rob Howley, wedi penderfynu rhoi cyfle i nifer o chwaraewyr ifanc yn y drydedd o gemau prawf yr hydref.

Fe fydd Sam Warburton yn ei ôl yn gapten yn y crys rhif 7, wrth iddo ymuno â Dan Lydiate a James King yn y rheng ol.

Mae clo Dreigiau Gwent, Cory Hill, a wnaeth ei ymddangosiad cynta’ yn erbyn Awstralia bythefnos y ôl, yn ymuno ag Alun Wyn Jones, a fydd yn ennill cap rhif 104. Yn y rheng flaen fe fydd Samson Lee, Nicky Smith a Scott Baldwin.

Fe fydd Lloyd Williams a Gareth Anscombe yn gwisgo crysau 9 a 10, a Jamie Roberts y dychwelyd yn bartner i Jonathan Davies yng nghanol cae.

Yn y cefn, fe fydd Alex Cuthbert yn cymryd lle George North, tra bod Liam Williams yn cymryd safle Leigh Halfpenny, ac yntau’n symud i’r asgell.

Ar y fainc am y tro cynta’ fe fydd Keelan Giles, ac yntau wedi cael dechrau da i’r tymor gyda’r Gweilch.