Caerwysg 62–25 Gleision

Cafodd y Gleision gweir go iawn wrth iddynt deithio i Sandy Park i wynebu Caerwysg yn y Cwpan Eingl-Gymreig brynhawn Sul.

Sgoriodd y Saeson bum cais yn yr hanner cyntaf cyn ychwanegu pump arall ar ôl troi mewn buddugoliaeth swmpus.

Cafodd y Gleision y dechrau perffaith gyda deg pwynt yn y tri munud cyntaf, cais gan James Sheekey a dwy gic lwyddiannus o droed Jarrod Evans.

Wnaeth y dechrau da ddim para’n hir wrth i Gaerwysg daro nôl mewn steil. Sgoriodd y tîm cartref dri chais mewn deg munud, un yr un i Shaun Malton a Michele Campagnaro o bobtu cais cosb.

Ychwanegodd Damian Welch a Joe Simmonds ddau arall wedi hynny ac roedd Caerwysg ym mhell ar y blaen erbyn yr egwyl, 31-10 y sgôr wrth droi.

Cynigodd y Gleision fwy yn yr ail hanner gyda cheisiau James Beal a Rhun Williams (2) yn rhoi gwedd fwy parchus ar eu hochr hwy o’r sgôr-fwrdd. Problem y Cymry oedd y ffaith fod Caerwysg yn ychwanegu yn helaeth at eu pwyntiau hwy hefyd.

Sgoriodd Tom Hendrickson a Stuart Townsend gais yr un yn hanner cyntaf yr ail hanner cyn i Tom Johnson, Jack Innard a Tom Lawday ychwanegu tri arall yn y chwarter olaf.

Deg cais i Gaerwysg yn y diwedd felly a buddugoliaeth swmpus yn erbyn y Gleision, 62-25 y sgôr terfynol.

.

Caerwysg

Ceisiau: Shaun Malton 5’, Cais Cosb 13’, Michele Campagnaro 16’, Damian Welch 27’, Joe Simmonds 38’, Tom Hendrickson 43’, Stuart Townsend 53’, Tom Johnson 60’, Jack Innard 70’, Tom Lawday 74’

Trosiadau: Joe Simmonds 6’, 14’, 17’, 44’, 54’, 70’

.

Gleision

Ceisiau: James Sheekey 3’, James Beal 48’, Rhun Williams 57’, 60’

Trosiad: Jarrod Evans 3’

Cic Gosb: Jarrod Evans 1’

Cardiau Melyn: Kirby Myhill 13’, Rhodri Davies 74’