Fe gafodd y Dreigiau dipyn o grasfa wedi iddyn nhw deithio i Gaerlyr i herio’r Leicester Tigers yn Welford Road.

Owen Williams, Greg Bateman ac Adam Thompstone oedd sgorwyr y ceisiau i Gaerlyr yn yr hanner cynta’, gyda Freddie Burns yn trosi ddwywaith cyn mynd yn ei flaen i sgorio’r pedwerydd cais i’r Teigrod, ond heb fedru trosi hwnnw.

Roedd y sgr ar yr hanner yn 27-3.

Ail hanner digon tawel fuodd e, a’r unig sgor am hanner awr yn dod o gic gosb o droed Freddie Burns dros y tim cartre’. Un garden felen i Harry Wells (Caerlyr) ar ol 47 munud, a dim byd ond eilyddio wedyn am gyfnod.

Oddi ar y cae i’r Dreigiau fe ddaeth Tom Prydie, Darran Harris a Phil Price, Rhys Jones, Joseph Davies, James Thomas a Nic Cudd; gyda Will Talbot-Davies, Elliott Dee a Sam Hobbs, Arwel Robson, Robson Blake, Joshua Skinner a Craig Mitchell yn cymryd eu lle ar y maes.

Fe ddaeth carden felen i Leon Brown (Dreigiau) ar ol 69 munud.

Ail wynt i Gaerlyr

Ond wedyn, a Freddie Burns newydd adael y cae wedi 70 munud, fe sg0riodd Ellis Genge gais i fynd â’r Teigrod ymhellach ar y blaen, er na fedrodd George Worth drosi.

Fe ddaeth Nic Cudd yn ei ol i’r maes ar ol 79 munud, i gymryd lle Craig Mitchell…

Ac yna, yn ystod y munud ola’ un, fe sgoriodd Caerlyr gais eto fyth wrth i Jack Roberts groesi’r llinell, a wnaeth George Worth ddim camgymeriad yn trosi y tro hwn.

Y sgor terfynol, 42-3.