Gweilch 12–15 Harlequins

Colli mewn gêm agos oedd hanes y Gweilch wrth i’r Harlequins ymweld â Sain Helen yn y Cwpan Eingl-Gymreig nos Wener.

Dechreuodd pethau’n dda i’r tîm cartref gyda’r maswr, Luke Price, yn croesi am gais cyntaf y gêm yn yr ail funud.

Unionodd y Saeson gyda chais George Naoupu hanner ffordd trwy’r hanner.

Cafodd y cyn Walch yn rheng flaen y Quins, Adam Jones, ei anfon i’r gell gosb wedi hynny a manteisiodd y tîm cartref gyda chais Dafydd Howells a throsiad Price yn eu rhoi saith pwynt ar y blaen wrth droi.

Yn ôl y daeth yr ymwelwyr yn yr ail hanner serch hynny gyda chais Charlie Matthews a throsiad Tim Swiel yn unioni pethau eto ar yr awr.

Rhoddodd Sweil ei dîm ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm gyda chic gosb saith munud o’r diwedd ac felly yr arhosodd hi tan y chwiban olaf.

.

Gweilch

Ceisiau: Luke Price 2’, Dafydd Howells 33’

Trosiad: Luke Price 33’

.

Harlequins

Ceisiau: George Naoupu 23’, Charlie Matthews 59’

Trosiadau: Tim Swiel 59’

Cic Gosb: Tim Swiel 73’

Cerdyn Melyn: Adam Jones 32’