Llun CCA 3.0 wedi'i addasu
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau heddiw eu bod wedi galw ar un o chwaraewyr y Gweilch, Keelan Giles, i ymuno â’r garfan oherwydd anaf Hallam Amos.

Yn ystod y gêm yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn, fe ddioddefodd Hallam Amos anaf i’w ysgwydd, ac mae bellach wedi’i ryddhau yn ôl at y Dreigiau.

Fe fydd Keelan Giles, asgellwr deunaw oed i’r Gweilch, yn ymuno â’r garfan wrth iddyn nhw herio’r Ariannin ddydd Sadwrn yn Stadiwm y Principality.

Mae disgwyl hefyd na fydd Rhys Webb ar gael wedi iddo yntau ddioddef anaf i’w bigwrn pan gurodd Awstralia Cymru o 32 – 8 ddydd Sadwrn diwethaf.