Scarlets 27–3 Glasgow

Sgoriodd Will Boyde ddau gais wrth i’r Scarlets drechu Glasgow yn y Guinness Pro12 nos Sadwrn.

Doedd dim llawer yn gwahanu’r ddau dîm wedi deugain munud ar Barc y Scarlets ond rheolodd Bois y Sosban yr ail hanner gan ennill yn gyfforddus yn y diwedd.

Daeth cais cyntaf y gêm wedi chwarter awr, ac am gais. Dechreuodd James Davies symudiad tîm da yn ddwfn yn ei hanner ei hun ac roedd cyd aelod o’r rheng ôl, Will Boyde, wrth law i hawlio’r cais ar y diwedd.

Treuliodd Wyn Jones ddeg munud yn y gell gosb am ddymchwel sgarmes symudol Glasgow wedi hynny ond cic gosb o droed Peter Horne a oedd yr unig bwyntiau a ildiodd y tîm cartref yn y cyfnod hwnnw.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser hefyd, 7-3 y sgôr wrth droi.

Wedi hanner cyntaf agos fe ddechreuodd y Scarlets yr ail ar dân gan groesi am gais gwych yn y munud cyntaf. Jonathan Evans a gafodd y sgôr yn y diwedd ond roedd y diolch i gyd i Patchell a Steff Evans a wrthymosododd yn hynod effeithiol o hanner eu hunain.

Llwyddodd Patchell gyda’r trosiad cyn ychwanegu cic gosb hefyd yn dilyn cerdyn melyn Pat MacArthur am dacl beryglus ar James Davies.

Rhoddodd hynny bedwar pwynt ar ddeg rhwng y ddau dîm ac roedd y fuddugoliaeth fwy neu lai yn ddiogel yn fuan wedyn diolch i ail gais Boyde a thrydydd ei dîm. Doedd dim gwrthymosodiad slic o bellter y tro hwn, dim ond sgarmes symudol hynod drefnus.

Ychwanegodd Patchell y trosiad eto cyn llwyddo gyda chic gosb arall i ymestyn y fantais ym mhellach.

Treuliodd Glasgow ddeg munud arall gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn melyn i Brian Alainu’ues ond methodd y Scarlets sgorio pedwerydd cais ac ychwanegu pwynt bonws at y fuddugolaieth.

Bu bron i Hadleigh Parkes wneud hynny gyda symudiad olaf y gêm ond penderfynodd y dyfarnwr fideo nad oedd y canolwr wedi cyrraedd y gwnyngalch.

Byddai pwynt bonws wedi codi’r Scarlets dros y Gleision yn nhabl y Pro12, ond bu rhaid iddynt fodloni ar bedwar pwynt yn unig ac aros yn seithfed.

.

Scarlets

Ceisiau: Will Boyde 16’, 53’, Jonathan Evans 41’

Trosiadau: Rhys Patchell 17’, 42’, 54’

Ciciau Cosb: Rhys Patchell 50’, 57’

Cerdyn Melyn: Wyn Jones 26’

.

Glasgow

Cic Gosb: Peter Horne 33’

Cardiau Melyn: Pat MacArthur 50’, Brian Alainu’ues 62’