Bydd y pymtheg a ddechreuodd y gêm yn erbyn y Gleision y penwythnos diwethaf yn dechrau unwaith eto i’r Scarlets wrth iddyn nhw groesawu Glasgow i Lanelli nos Sadwrn (7.15pm).

Maen nhw’n anelu am eu pumed buddugoliaeth o’r bron ar ôl codi i’r chwech uchaf yn nhabl y PRO12 am y tro cynta’r tymor hwn.

Mae’r Albanwyr yn teithio i Gymru gyda dau wyneb newydd yn eu tîm – Djustice Sears-Duru a Brian Alainu’uese.

Mae Sears-Duru yn y garfan am y tro cyntaf, ac Alainu’uese yn dechrau am y tro cyntaf ar ôl dod oddi ar y fainc yr wythnos diwethaf wrth iddyn nhw guro Treviso o 31-14.

Mae Mark Bennett, Rob Harley, Peter Horne a Tim Swinson ar gael ar ôl cael eu rhyddhau o garfan yr Alban.

Scarlets: Aled Thomas, DTH van der Merwe, Steff Hughes, Hadleigh Parkes (capten), Steff Evans, Rhys Patchell, Jonathan Evans; Wyn Jones, Ryan Elias, Werner Kruger, Tom Price, David Bulbring, Aaron Shingler, Will Boyde, John Barclay. Eilyddion: Emyr Phillips, Dylan Evans, Peter Edwards, Lewis Rawlins, James Davies, Aled Davies, Dan Jones, Gareth Owen

Glasgow Warriors: Peter Murchie, Lee Jones, Mark Bennett, Sam Johnson, Rory Hughes, Peter Horne, Ali Price; Djustice Sears-Duru, Pat MacArthur, Sila Puafisi, Tim Swinson, Brian Alainu’ues, Rob Harley, Simone Favaro, Lewis Wynne. Eilyddion: Corey Flynn, Jamie Bhatti, D’arcy Rae, Matt Fagerson, Langilangi Haupeakui, Grayson Hart, Rory Clegg, Nick Grigg