Gareth Thomas (llun Swyddfa Gartref CCA2.5)
Mae un o gyn gapteniaid rygbi Cymru wedi dweud mai Robert Howley ddylai gael swydd yr hyfforddwr ar ôl Warren Gatland.

Yn ôl Gareth Thomas, yr ateb delfrydol fyddai cael Cymro wrth y llyw a doedd dim pwynt cael tîm o is-hyfforddwyr Cymreig os nad oedd un ohonyn nhw’n cael dyrchafiad wedyn.

Fe ddywedodd y cyn asgellwr a chanolwr wrth y BBC ei fod yn disgwyl i Gymru chwarae gêm fwy anturus wrth i Howley gymryd yr awenau yng ngêmau’r hydref.

Mae Warren Gatland ar gyfnod sabothol yn paratoi at hyfforddi tîm y Llewod ond mae wedi cael ei feirniadu am chwarae gêm undonog.