Gethin Jenkins, capten Cymru
Gethin Jenkins fydd capten tîm o chwaraewyr profiadol Cymru fydd yn herio Awstralia yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

A Gethin Jenkins, fel y Cymro â’r nifer mwya’ erioed o gapiau dros ei wlad, fydd yn gobeithio cael y gorau ar y Walabis, ar ddechrau cyfres yr hydref o gemau.

Yn y tîm bydd pâr o Scarlets, Ken Owens a Samson Lee yn y rheng flaen. Bradley Davies a Luke Charteris fydd y ddeuawd yn yr ail reng, gyda Ross Moriarty yn y crys rhif 8 ochr yn ochr â dau o’r Gweilch, Dan Lydiate a Justin Tipuric yn y rheng ôl.

Fe fydd Rhys Webb a Dan Biggar hefyd yn parhau â’u partneriaeth gyda’r Gweilch ar y maes rhyngwladol, a bydd Cymru’n galw am brofiad y Llewod, Jamie Roberts, Jonathan Davies fel canolwr, a Leigh Halfpenny, George North ac Alex Cuthbert, yng Nghaerdydd.

Ar y fainc, fe fydd Scott Baldwin, Nicky Smith a Tomas Francis o’r rheng flaen; Cory Hill a James King o’r blaenwyr; a Gareth Davies, Sam Davies a Hallam Amos o’r rheng ôl.

Fydd Alun Wyn Jones ddim yn chwarae ddydd Sadwrn, oherwydd iddo golli’i dad, Tim Jones.

Y tîm
15. Leigh Halfpenny
14. Alex Cuthbert
13. Jonathan Davies
12. Jamie Roberts
11. George North
10. Dan Biggar
9. Rhys Webb
1. Gethin Jenkins (Capten)
2. Ken Owens

3. Samson Lee

4. Bradley Davies
5. Luke Charteris
6. Dan Lydiate
7. Justin Tipuric
8. Ross Moriarty