Gweilch 35–17 Dreigiau

Sgoriodd y Gweilch bum cais mewn buddugoliaeth gyfforddus dros y Dreigiau yn y Guinness Pro12 ar y Liberty brynhawn Sadwrn.

Sicrhaodd y tîm cartref bwynt bonws gydag ail gais Keelan Giles yn gynnar yn yr ail hanner cyn dal eu gafael yn gyfforddus er gwaethaf dau gais cysur hwyr i’r Dreigiau.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd yr hanner cyntaf yn addawol i’r Dreigiau wrth i Nick Macloed eu cicio dri phwynt ar y blaen ac wrth i brop y Gweilch, Dimitri Arhip, gael ei anfon i’r gell gosb am arwain gyda’i ben elin.

Y Gweilch a oedd y tîm cryfaf wedi’r munudau agoriadol serch hynny a dim ond mater o amser oedd hi nes iddynt daro nôl.

Gwnaethant hynny hanner ffordd trwy’r hanner gyda chais Tom Habberfield. Cododd yr wythwr, Joe Bearman, y bêl o fôn sgrym bump cyn bwydo’r mewnwr am gais syml.

Bu rhaid aros tan funud olaf y deugain am ail gais y Gweilch. Scott Baldwin a oedd y sgoriwr y tro hwn, y bachwr yn hyrddio drosodd wedi sgarmes symudol effeithiol o lein bump.

Cafodd y ddau gais eu trosi gan Josh Matavesi, 14-3 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Pedwar munud yn unig fu rhaid ei aros am gais cyntaf yr ail hanner wrth i’r asgellwr ifanc cyffrous, Keelan Giles, groesi o dan y pyst yn dilyn hanner bylchiad a dadlwythiad Matavesi.

Roedd y fuddugoliath a’r pwynt bonws yn ddiogel toc cyn yr awr diolch i Giles â’i ail gais ef a phedwerydd ei dîm. Ciciodd bêl rydd ar y llinell hanner ac roedd yr asgellwr yn llawer rhy gyflym i Macloed wrth iddo wibio heibio i’r maswr cyn casgu’r bêl a thirio.

Ychwanegodd Brendon Leonard bumed cais i’r Gweilch cyn i Matthew Screech a Pat Howard groesi am ddau gais cysur i’r Dreigiau, 35-17 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn codi’r Gweilch i frig tabl y Pro12 ac yn gadael y Dreigiau tua’r gwaelodion.

.

Gweilch

Ceisiau: Tom Habberfield 22’, Scott Baldwin, Keelan Giles 44’, Brendon Leonard 74’

Trosiadau: Josh Matavesi 23’, 40, 45, 57’, 75’

Cerdyn Melyn: Dimitri Arhip 7’

.

Dreigiau

Ceisiau: Matthew Screech 77’, Pat Howard 80’

Trosiadau: Geraint Rhys Jones 78’, 80’

Cic Gosb: Nick Macloed 4’