Mae’r dryswch yn parhau a fydd yr asgellwr George North yn chwarae yn y gêm brawf yn erbyn Awstralia, gyda’i glwb Northampton ac Undeb Rygbi Cymru yn gwrthddweud ei gilydd.

Fe fydd y gêm ar Dachwedd 5 – y tu allan i ffenest  rhyddhau chwaraewyr ar gyfer gemau prawf –  ac o ganlyniad nid oes rheidrwydd i glybiau Lloegr ryddhau’r chwaraewyr.

Dywedodd Rheolwr Northampton Paul Shields wrth BBC Radio Northampton:  “Fel mae hi ar hyn o bryd, ni fydd George North yn chwarae.

“Nid yw George yn ddim gwahanol i chwaraewyr eraill sydd ddim yn Seisnig. Nid oes yna amod yn ei gytundeb sy’n rhyddhau George i chwarae.”

“Dw i’n ymwybodol fod trafodaethau yn parhau gydag Undeb Rybi Cymru a chadeiryddion clybiau Lloegr, ond nid ydwyf yn rhan o’r trafodaethau hynny.”

Ond mae’r Undeb Rygbi wedi cadarnhau y bydd George North yn chwarae yn erbyn Awstralia.

Fe fydd y penderfyniad gan glybiau uwch gynghrair Lloegr i ryddhau chwaraewyr neu ddim hefyd yn effeithio ar ganolwr yr Harlecwiniaid, Jamie Roberts.

Y Cymro arall sydd yn chwarae yn Lloegr yw wythwr Caerfaddon, Taulupe Faletau – ond mae ganddo anaf ar hyn o bryd.