Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi gwneud trosiant o £73.3 miliwn yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin eleni.

Mae’r hynny’n 13% yn fwy na’r £64.8 miliwn a wnaethpwyd y flwyddyn flaenorol ond fe wnaeth yr Undeb hefyd ail-fuddsoddi £ 33.1 miliwn i mewn i’r gêm yn genedlaethol, yn ôl ei adroddiad blynyddol diweddaraf.

Roedd y buddsoddiad yn gynnydd o 11% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol ac yn adlewyrchu’r twf mewn refeniw.

Tyfodd y buddsoddiad mewn clybiau cymunedol o £6.8 miliwn i £7.9 miliwn a gwelodd Chynghrair y Principality dwf o 14% yn eu buddsoddiad i £1.6m. Cafodd y Rhanbarthau hefyd 12% yn fwy o arian gan dderbyn £19.3m

Yn ychwanegol at gynnydd mewn buddsoddiad mewn rygbi ar lawr gwlad, mae’r undeb hefyd wedi lleihau ei ddyled banc i £14.2 miliwn i £11 miliwn.

Mae hyn yn gadael Undeb Rygbi Cymru gydag elw ar ôl treth o £0.1m.

“Buddsoddiad ar bob lefel”

Meddai Martyn Phillips, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru: “Rydym wedi gallu cynyddu’r buddsoddiad ym mhob lefel o’r gêm – yn benodol yn y gêm cymunedol, clybiau Uwch Gynghrair a’r Rhanbarthau.

“Ein clybiau, y gêm gymunedol a’r holl chwaraewyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr eraill ar y lefel honno yw anadl einioes ein gêm genedlaethol.

“Rydym am annog cymaint o bobl â phosibl i ymgysylltu â’n gêm, boed yn gefnogwyr, chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr, partneriaid masnachol, meddygon neu wirfoddolwyr.

“Rydym yn cydnabod bod y rhan fwyaf yn ymgysylltu â rygbi ar gyfer mwynhad. Rydym yn ymwybodol bod rygbi yn gamp gymdeithasol ac mae’r clwb yn aml wrth galon y gymuned. Rydym am i rygbi fod yn gamp sy’n rhoi mwynhad i’r teulu i gyd. “