Gleision 13–16 Leinster

Collodd y Gleision am y tro cyntaf yn y Guinness Pro12 y tymor hwn wrth i Leinster ymweld â Pharc yr Arfau nos Sadwrn.

Roedd y Cymry ddeg pwynt ar y blaen ar hanner amser ond yn ôl y daeth yr ymwelwyr wedi’r egwyl gyda chais Rhys Ruddock a chicio cywir Johnny Sexton.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Gleision yn dda ond roedd angen tacl wych gan Blaine Scully i atal Dan Leavy rhag croesi am gais agoriadol i Leinster wedi chwarter awr o chwarae.

Gadawodd Sam Warburton y cae gydag anaf i’w ben yn fuan wedi hynny ac aeth Leinster ar y blaen gyda chic gosb Sexton hanner ffordd trwy’r hanner.

Methodd maswr Iwerddon gyda’i ail gynnig yn fuan wedyn a’r Gleision a Gareth Anscombe a oedd berchen chwarter awr olaf yr hanner.

Unionodd y maswr y sgôr gyda chic gosb i ddechrau cyn rhoi ei dîm ar y blaen gyda chais unigol gwych, yn bychu ar y llinell deg medr cyn rhedeg yr holl ffordd at y llinell gais.

Llwyddodd i drosi ei gais ei hun cyn ychwanegu mynydd o gic gosb hefyd cyn y chwiban hanner, 13-3 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Caeodd Sexton y bwlch i dri gyda chic gosb yn gynnar yn yr ail gyfnod ac roedd y Gwyddelod wedi sgorio eu cais cyntaf yn fuan wedyn.

Daeth hwnnw i Ruddock, yr wythwr yn cropian drosodd wedi cyfnod da o bwyso ac roedd Leinster yn gyfartal wedi trosiad Sexton.

Aros yn gyfartal a wnaeth hi am ugain munud wedi hynny ond yna, gyda dim ond deg munud i fynd, anfonwyd Josh Navidi i’r gell gosb am gamsefyll a rhoddodd Sexton yr ymwelwyr ar y blaen gyda chic gosb arall.

Taflodd y Gleision bopeth at amddiffyn y Gwyddelod yn y munudau olaf ond dal eu gafael a wnaeth Leinster gan ddod â record 100% y Gleision i ben ym mhumed gêm y tymor.

.

Gleision

Cais: Gareth Anscombe 32’

Trosiad: Gareth Anscombe 33’

Ciciau Cosb: Gareth Anscombe 27’, 36’

Cerdyn Melyn: Josh Navidi 70’

.

Leinster

Cais: Rhys Ruddock 50’

Trosiad: Johnny Sexton 51’

Ciciau Cosb: Johnny Sexton 20’, 45’, 71’