Dreigiau 17–26 Glasgow

Colli mewn gêm glos fu hanes y Dreigiau wrth i Glasgow ymweld â Rodney Parade yn y Guinness Pro12 nos Wener.

Aeth y tîm cartref ar y blaen gyda dau gais yn gynnar yn yr ail hanner ond yn ôl y daeth Glasgow wrth i’r Dreigiau golli eto.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd y Dreigiau’n dda ond Glasgow a gafodd bwyntiau cyntaf y noson diolch i gic gosb Finn Russell wedi deg munud.

Daeth yr Albanwyr fwyfwy i’r gêm yn raddol wedi hynny a dyblodd Russell y fantais gyda’i ail gic chwarter awr cyn yr egwyl.

Daeth cais cyntaf y gêm yn fuan wedyn, blaenasgellwr yr ymwelwyr, Cory Flynn, yn sgorio wedi sgarmes symudol hynod effeithiol yr holl ffordd o’r llinell dau ar hugain.

Wedi trosiad Russell roedd y Dreigiau dri phwynt ar ddeg ar ei hôl hi er eu bod wedi chwarae yn o lew.

Newidiodd lwc y tîm cartref fymryn wedi hynny wrth i Nick Macleod gicio eu pwyntiau cyntaf wedi cerdyn melyn i Fraser Brown am dacl beryglus.

Diffyg disgyblaeth a oedd thema’r hanner i’r Dreigiau serch hynny a chawsant eu cosbi eto cyn yr egwyl wrth i Russell adfer y tri phwynt ar ddeg o fantais gyda chic gosb arall, 3-16 y sgôr wrth droi.

Ail Hanner

Dechreuodd y Dreigiau’r ail hanner ar dân ac roeddynt ar y blaen wedi llai na deg munud diolch i ddau gais cyflym.

Sam Hobbs a sgoriodd y cyntaf, y prop yn gwingo’i ffordd drosodd wedi cyfnod da o bywso ar ddechru’r ail hanner. Daeth yr ail i’r canolwr, Jack Dixon, ychydig funudau’n ddiweddarach wrth i’r tîm cartref wrthymosod yn dda wedi i Russell golli’r bêl wrth y llinell hanner.

Trosodd Macleod y ddau gais ac roedd ei dîm bwynt ar y blaen gydag ychydig dros hanner awr i fynd.

Ond yn ôl y daeth Glasgow bron yn syth wrth i Alex Allan groesi am ail gais yr Albanwyr, y prop o bawb yn ochrgamu’n grefftus cyn croesi o dan y pyst!

Ychwanegodd Russell y trosiad ond dim ond un sgôr a oedd ynddi o hyd. Brwydrodd y Dreigiau yn galed wrth geisio taro nôl ond llwyddodd Glasgow i reoli digon o’r gêm i gadw gafael ar eu mantais, a gyda chic gosb hwyr Russell, fe gipiodd yr ymwelwyr y pwynt bonws o ofael y Cymry hefyd, 17-26 y sgôr terfynol.

Perfformiad gwell ond canlyniad siomedig arall i’r Dreigiau sydd yn aros yn seithfed yn nhabl y Pro12 am y tro.

.

Dreigiau

Ceisiau: Sam Hobbs 43’, Jack Dixon 47’

Trosiadau: Nick Macleod 44’, 49’

Cic Gosb: Nick Macleod 33’

.

Glasgow

Ceisiau: Corey Flynn 29’, Alex Allan 51’

Trosiadau: Finn Russell 30’, 51’

Ciciau Cosb: Finn Russell 10’, 26’, 36’, 79’

Cerdyn Melyn: Fraser Brown 33’